Rheoliadau Bwyd ƒ Ffytosterolau neu Ffytostanolau Ychwanegol (Labelu) (Cymru) 2005

JurisdictionUK Non-devolved
CitationWSI 2005/1224 (Cymru)

2005Rhif 1224 (Cy.82)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd â Ffytosterolau neu Ffytostanolau Ychwanegol (Labelu) (Cymru) 2005

26 Ebrill 2005

30 Ebrill 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17, 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990( 1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo( 2), ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor( 3) sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd â Ffytosterolau neu Ffytostanolau Ychwanegol (Labelu) (Cymru) 2005; deuant i rym ar 30 Ebrill 2005 a maent yn gymwys o ran Cymru yn unig.

Dehongli

2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -

mae "bisgedi" ("biscuits") yn cynnwys wafferi, bisgedi caled, bara ceirch a bara croyw;

ystyr "Cyfarwyddeb 2000/13" ("Directive 2003/13") yw Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor( 4) ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch labelu, cyflwyno a hysbysebu bwydydd, fel y'i diwygiwyd gan ddiwygiadau hyd at a chan gynnwys y rheini a effeithir gan Gyfarwyddeb 2003/89/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor( 5).

ystyr "cyffaith blawd" ("flour confectionery") yw unrhyw fwyd wedi'i goginio sy'n barod i'w fwyta heb ei baratoi ymhellach (heblaw ei aildwymo), y mae grawn mâl yn gynhwysyn sy'n nodweddiadol ohonno, gan gynnwys teisen frau, sbynjis, cramwyth, myffins, macarwns, rataffias, crwst a chasys crwst, ac mae'n cynnwys hefyd meringues, petits fours a chrwst a chasys crwst sydd heb eu coginio, ond nid yw'n cynnwys bara, pitsas, bisgedi, tafelli cras, bara gwastad allwthiedig nac unrhyw fwyd sy'n cynnwys llenwad y mae unrhyw gaws, cig, syrth, pysgod, pysgod cregyn, deunydd protein llysieuol neu ddeunydd protein microbig yn gynhwysyn ynddo;

ystyr "cynnyrch cyffaith" ("confectionery product") yw unrhyw eitem o gyffaith siocled neu gyffaith siwgr;

ystyr "cynnyrch cyffaith ffansi" ("fancy confectionery product") yw unrhyw gynnyrch cyffaith ar ffurf ffigwr, anifail, sigarét, neu wy neu ar unrhyw ffurf ffansi arall;

ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

mae "gwerthu" ("sell") yn cynnwys cynnig neu ddangos rhywbeth i'w werthu ac mae'n cynnwys cael rhywbeth yn eich meddiant i'w werthu, a rhaid deall "gwerthiant" ("sale") yn unol â hynny;

mae "iâ bwytadwy" ("edible ice") yn cynnwys hufen iâ, iâ dwr a iâ ffrwythau, p'un ai ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad, ac unrhyw fwyd tebyg;

ystyr "y manylion allweddol" ("the key particulars") yw'r manylion hynny a bennir yn eitemau 1 a 5 yn ail is-baragraff Erthygl 2 o Reoliad 608/2004;

ystyr "y manylion penodedig" ("the specified particulars") yw'r manylion sy'n ofynnol gan Erthygl 2 o Reoliad 608/2004.

mae "paratoi" ("preparation") o ran bwyd yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw fath o brosesu neu drin;

ystyr "Rheoliad 608/2004" ("Regulation 608/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 608/2004( 6) ynghylch labelu bwydydd a chynhwysion bwyd â ffytosterolau, esterau ffytosterol, ffytostanolau a/neu esterau ffytostanol ychwanegol; ac

ystyr "wedi'i ragbacio i'w werthu'n uniongyrchol" ("prepacked for direct sale") yw -

(a) o ran bwyd heblaw cyffaith blawd, bara ac iâ bwytadwy, wedi'i ragbacio gan fân-werthwr er mwyn i'r mân-werthwr hwnnw ei werthu yn y fangre lle y mae'r bwyd yn cael ei bacio neu o gerbyd neu o stondin a...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT