Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020

JurisdictionWales
CitationWSI 2020/163 (Cymru)
Year2020

2020 Rhif 163 (Cy. 31)

Gofal Cymdeithasol, Cymru A Lloegr

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020

Gwnaed 17th February 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 20th February 2020

Yn dod i rym 1st April 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 9(1)(a), 11(2) a (3), 121, 45(1), 54, 83(4) a (5), 140(7) ac (8) a 142(5) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 20022ac adrannau 174(7) a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20143, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli
S-1 Enwi, cychwyn a dehongli

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1) Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020.

(2) Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2020.

(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 20054.

Diwygioʼr Prif Reoliadau

Diwygioʼr Prif Reoliadau

S-2 Maeʼr Prif Reoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Maeʼr Prif Reoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2. Maeʼr Prif Reoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.

S-3 Yn rheoliad 2 (dehongli)— yn y lleoedd priodol mewnosoder— mae...

3. Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a) yn y lleoedd priodol mewnosoder—

“mae i “adroddiad adolygu darpar fabwysiadydd” (“prospective adopterʼs review report”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 30CH(5)(a);”;

“mae i “adroddiad darpar fabwysiadydd” (“prospective adopterʼs report”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 30(2);”;

“ystyr “Cofrestr Fabwysiadu Cymru” (“the Adoption Register for Wales”) ywʼr gofrestr syʼn cynnwys gwybodaeth am blant syʼn addas iʼw mabwysiadu a darpar fabwysiadwyr syʼn addas i fabwysiadu plentyn, sydd wedi ei sefydlu o dan adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 20065ac a gynhelir ar ran Gweinidogion Cymru;”;

“mae i “cynllun asesu darpar fabwysiadydd” (“prospective adopter assessment plan”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 29;”;

“mae i “cynllun cam un darpar fabwysiadydd” (“prospective adopter stage one plan”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 22;”;

“mae i “cynllun paru darpar fabwysiadydd” (“prospective adopter matching plan”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 31;”;

“mae i “darparwr gwasanaethau maethu” (“fostering services provider”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2 o Reoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 20186;”;

“mae i “paratoad ar gyfer mabwysiadu” (“preparation for adoption”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 24;”;

“ystyr “Rheoliadau 2014” (“the 2014 Regulations”) yw Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 20147;”;

(b) yn lle’r diffiniad o “dyfarniad o gymhwyster” rhodder—

“mae i “dyfarniad o gymhwyster” (“qualifying determination”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 30B(5)(a);”.

S-4 Yn rheoliad 16(2) (gofyniad i gael gwybodaeth am deulu’r...

4. Yn rheoliad 16(2) (gofyniad i gael gwybodaeth am deulu’r plentyn (gan gynnwys gwybodaeth am iechyd y teulu)), hepgorer “naturiol” ac ar ôl “rieni” mewnosoder “geni”.

S-5 Yn rheoliad 17 (gofyniad i baratoi adroddiad ysgrifenedig)— ym...

5. Yn rheoliad 17 (gofyniad i baratoi adroddiad ysgrifenedig)—

(a) ym mharagraff (2C), yn lle “yn (2D)” rhodder “ym mharagraff (2CH)”;

(b) yn y testun Cymraeg, ailrifer y paragraff (2D) presennol yn baragraff (2CH) o’r rheoliad hwnnw;

(c) ym mharagraff (2CH)(iii) (fel y’i hailrifwyd), yn lle “naturiol” rhodder “geni”.

S-6 Yn nhestun Cymraeg rheoliad 19(1A) (penderfyniad a hysbysiad...

6. Yn nhestun Cymraeg rheoliad 19(1A) (penderfyniad a hysbysiad gan yr asiantaeth fabwysiadu), yn lle “17(2D)” rhodder “17(2CH)”.

S-7 Ar ôl rheoliad 19 mewnosoder— 19A Atgyfeirio at Gofrestr...

7. Ar ôl rheoliad 19 mewnosoder—

S-19A

Atgyfeirio at Gofrestr Fabwysiadu Cymru - plant

19A. (1) Pan fo asiantaeth fabwysiadu—

(a)

(a) wedi’i hawdurdodi i leoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu, a

(b)

(b) heb nodi darpar fabwysiadwyr penodol y maeʼn ystyried lleoliʼr plentyn ar gyfer ei fabwysiadu gyda hwy,

rhaid iʼr asiantaeth ddarparu manylion am y plentyn i’r sefydliad syʼn cynnal Cofrestr Fabwysiadu Cymru iʼw cofnodi yn y gofrestr cyn gynted â phosibl a dim hwyrach nag un mis ar ôl y dyddiad yr awdurdodwyd yr asiantaeth i leoli’r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.

(2) Pan fo asiantaeth fabwysiadu yn dod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau iʼr manylion am y plentyn, rhaid iʼr asiantaeth hysbysuʼr8sefydliad syʼn cynnal y gofrestr oʼr newidiadau hynny cyn gynted ag y boʼn rhesymol ymarferol.

(3) Ym mharagraff (1), ystyr “wedi’i hawdurdodi i leoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu” yw naill ai—

(a)

(a) wedi’i hawdurdodi i leoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu yn unol â chydsyniad rhiant o dan adran 19 o’r Ddeddf, neu

(b)

(b) wedi’i hawdurdodi i leoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu yn unol â gorchymyn lleoliad a wneir yn unol ag adran 21(1) o’r Ddeddf.”

S-8 Yn rheoliad 20(1) (cais i benodi swyddog achosion teuluol ar...

8. Yn rheoliad 20(1) (cais i benodi swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddog o CAFCASS), ar ôl “rhiant neu warcheidwad y plentyn” mewnosoder “yn preswylio yng Nghymru a Lloegr ac”.

S-9 Ar ôl rheoliad 20 mewnosoder— 20A Personau sydd wedi’u...

9. Ar ôl rheoliad 20 mewnosoder—

S-20A

Personau sydd wedi’u hawdurdodi i fod yn dyst i gydsyniad i leoli ar gyfer mabwysiadu

20A. (1) Pan foʼr rhiant neuʼr gwarcheidwad yn preswylio y tu allan i Gymru a Lloegr ac yn barod i gydsynio i leoliʼr plentyn ar gyfer ei fabwysiadu o dan adran 19 oʼr Ddeddf ac, yn ôl y digwydd, i gydsynio i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 oʼr Ddeddf, rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu drefnu i berson awdurdodedig gael ei benodi i fod yn dyst wrth iʼr rhiant hwnnw neuʼr gwarcheidwad hwnnw gwblhauʼr ffurflen cydsynio i leoli neu i fabwysiadu ac anfon at y person hwnnw yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 2.

(2) Ystyr “person awdurdodedig” at ddibenion y rheoliad hwn yw mewn perthynas â ffurflen gydsynio a gwblheir—

(a)

(a) yn yr Alban, Ynad Heddwch neu Siryf;

(b)

(b) yng Ngogledd Iwerddon, Ynad Heddwch;

(c)

(c) y tu allan iʼr Deyrnas Unedig, unrhyw berson sydd am y tro wedi’i awdurdodi yn ôl y gyfraith yn y man lle y cwblheir y ddogfen i weinyddu llw at unrhyw ddiben barnwrol neu at unrhyw ddiben cyfreithiol arall, swyddog Consylaidd Prydeinig, notari cyhoeddus neu, os ywʼr person syʼn cwblhauʼr ddogfen yn gwasanaethu yn unrhyw un o luoedd arfog rheolaidd y Goron, swyddog syʼn dal comisiwn mewn unrhyw un oʼr lluoedd hynny.”

S-10 Yn lle Rhan 4 rhodder— RHAN 4 DYLETSWYDDAU ASIANTAETH...

10. Yn lle Rhan 4 rhodder—

RHAN 4

DYLETSWYDDAU ASIANTAETH FABWYSIADU O RAN DARPAR FABWYSIADYDD

Cam 1 – y broses cyn asesu

(21) Cofrestru diddordeb mewn mabwysiadu

Mae rheoliadau 22 i 27 yn gymwys pan fo person wedi hysbysu asiantaeth fabwysiadu ei fod am fabwysiadu plentyn a boʼr asiantaeth wedi hysbysuʼr person hwnnw ei bod wedi penderfynu bwrw ymlaen âʼr broses cyn asesu mewn cysylltiad âʼr person hwnnw.

(22) Cynllun cam un darpar fabwysiadydd

Rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu baratoi cynllun ysgrifenedig gan ymgynghori âʼr darpar fabwysiadydd (“cynllun cam un y darpar fabwysiadydd”) syʼn cynnwys y materion canlynol—

(a)

(a) gwybodaeth am y cwnsela, yr wybodaeth aʼr paratoad ar gyfer mabwysiadu sydd iʼw darparu o dan reoliad 24,

(b)

(b) y weithdrefn ar gyfer cynnal gwiriadau heddlu o dan reoliad 25,

(c)

(c) manylion unrhyw hyfforddiant y maeʼr darpar fabwysiadydd wedi cytuno i ymgymryd ag ef,

(ch)

(ch) gwybodaeth am rôl y darpar fabwysiadydd ym mroses cam un,

(d)

(d) unrhyw amserlenni cymwys,

(dd)

(dd) gwybodaeth am y broses ar gyfer cyflwyno sylwadau (gan gynnwys cwyn) o dan Reoliadau 2014, ac

(e)

(e) unrhyw wybodaeth arall y maeʼr asiantaeth yn ystyried ei bod yn berthnasol.

(23) Cofnod achos darpar fabwysiadydd

(1)

(1) Rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu sefydlu cofnod achos mewn cysylltiad âʼr darpar fabwysiadydd (“cofnod achos y darpar fabwysiadydd”) a rhoi yn y cofnod achos hwnnw—

(a) cynllun cam un y darpar fabwysiadydd,

(b) yr wybodaeth aʼr adroddiadau a gafwyd gan yr asiantaeth yn rhinwedd y Rhan hon,

(c) cynllun asesuʼr darpar fabwysiadydd;

(ch) adroddiad y darpar fabwysiadydd a sylwadauʼr darpar fabwysiadydd ar yr adroddiad hwnnw,

(d) y cofnod ysgrifenedig o drafodion y panel mabwysiadu a gynhelir o dan reoliad 30A (a phan foʼn gymwys reoliad 30B(8)), ei argymhelliad, y rhesymau dros yr argymhelliad ac unrhyw gyngor a roddir gan y panel iʼr asiantaeth,

(dd) y cofnod o benderfyniad yr asiantaeth o dan reoliad 30B(1), (6) neu yn ôl y digwydd (9),

(e) pan foʼr darpar fabwysiadydd wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad gan banel adolygu annibynnol, argymhelliad y panel adolygu hwnnw,

(f) pan foʼn gymwys, adroddiad adolyguʼr darpar fabwysiadydd a sylwadauʼr darpar fabwysiadydd ar yr adroddiad hwnnw,

(ff) cynllun paruʼr darpar fabwysiadydd, ac

(g) unrhyw ddogfennau eraill neu wybodaeth arall a gafwyd gan yr asiantaeth ac y maeʼn ystyried y dylid eu cynnwys neu ei chynnwys yn y cofnod achos hwnnw.

(2)

(2) Caiff yr asiantaeth fabwysiadu ofyn iʼr darpar fabwysiadydd ddarparu unrhyw wybodaeth bellach y maeʼn rhesymol iʼr asiantaeth ei gwneud yn ofynnol.

(3)

(3) Pan fo paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â chwpl, rhaid i’r asesiad o’u haddasrwydd i fabwysiadu plentyn gael ei ystyried ar y cyd a rhaid iʼr asiantaeth sefydlu un cofnod achos.

(24) Gofyniad i ddarparu cwnsela, gwybodaeth a pharatoad ar gyfer mabwysiadu

(1)

(1) Rhaid iʼr asiantaeth fabwysiadu—

(a) darparu gwasanaeth cwnsela ar gyfer y darpar fabwysiadydd,

(b) mewn achos adran 839, esbonio iʼr darpar fabwysiadydd, a darparu gwybodaeth ysgrifenedig am y weithdrefn mewn perthynas â mabwysiadu plentyn oʼr wlad y maeʼr darpar fabwysiadydd yn dymuno mabwysiadu ohoni a goblygiadau cyfreithiol gwneud hynny,

(c) mewn unrhyw achos arall, esbonio iʼr darpar fabwysiadydd, a darparu gwybodaeth ysgrifenedig am y weithdrefn mewn perthynas â lleoli ar gyfer mabwysiadu a mabwysiadu a goblygiadau cyfreithiol gwneud hynny,

(ch) darparu iʼr darpar fabwysiadydd unrhyw wybodaeth a deunyddiau hyfforddi sydd ar gael ac syʼn ymwneud â mabwysiadu plentyn, a

(d) gwneud trefniadau iʼr darpar fabwysiadydd gael...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT