Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Diwygio) (Cymru) 2004
Jurisdiction | UK Non-devolved |
Citation | WSI 2004/783 (Cymru) |
Year | 2004 |
2004Rhif 783 (Cy.80)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Diwygio) (Cymru) 2004
16 Mawrth 2004
1 Medi 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 77(2) a (4), 80(4), 83(9) a 84(5) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000( 1).
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004.
(2) Maent yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001
2. - (1) Diwygir Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001( 2) fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 2 rhowch y canlynol -
"2. Mae arolygiadau i'w cynnal -
(a) o fewn chwe mlynedd o'r arolygiad diwethaf, neu
(b) os nad oes arolygiad wedi bod, o fewn chwe mlynedd o ba un bynnag yw'r cynharaf o'r canlynol -
(i) dyddiad unrhyw asesiad neu arolygiad a gyflawnwyd o dan adran 9(4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992( 3);
(ii) dyddiad sefydlu sefydliad sy'n darparu'r addysg a hyfforddiant sydd i gael eu harolygu; neu
(iii) 1 Medi 2004,
ac yna o fewn pob cyfnod o chwe mlynedd o'r arolygiad diwethaf.".
(3) Yn rheoliad 3 -
(a) yn lle'r Rhif "55" rhowch y Rhif "70", a
(b) dilëwch y geiriau "neu, pan fydd angen darparu cyfieithiad i'r Gymraeg neu'r Saesneg, y cyfnod o 65 niwrnod gwaith o'r dyddiad hwnnw".
(4) Yn rheoliad 4(1) -
(a) yn lle'r Rhif "40" rhowch y Rhif "50", a
(b) dilëwch y geiriau "neu, pan fydd angen darparu cyfieithiad i'r Gymraeg neu'r Saesneg, y cyfnod o 50 niwrnod gwaith" a'r geiriau "(yn y naill achos neu'r llall)".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998( 4)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Mawrth 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001 er mwyn -
(a) darparu bod arolygiadau addysg neu hyfforddiant penodol i'w cynnal o fewn chwe mlynedd o ba un bynnag yw'r cynharaf o'r canlynol -
· dyddiad yr arolygiad diwethaf (o dan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 neu'r drefn flaenorol o dan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992),
· dyddiad sefydlu sefydliad newydd, neu
· 1 Medi 2004,
ac yna o fewn pob cyfnod o chwe mlynedd i ddyddiad yr arolygiad diwethaf; a
(b) newid y cyfnod y mae'n rhaid gwneud...
To continue reading
Request your trial