Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) (Diwygio) 2016

JurisdictionWales

2016 Rhif 276 (Cy. 100)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed 2nd March 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 4th March 2016

Yn dod i rym 26th March 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 5(2)(b), 55(2) a 57(1) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 20151, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

S-

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) (Diwygio) 2016 a deuant i rym ar 26 Mawrth 2016.

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 20152.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau 2015

Diwygio Rheoliadau 2015

S-

Mae Rheoliadau 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

S-

Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—

“ystyr “yn cael ei gyllido’n gyhoeddus” (“publicly-funded”) yw yn cael ei gynnal neu ei gynorthwyo gan grantiau rheolaidd o gronfeydd cyhoeddus;”; ac

“ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 19983;”.

S-

Yn lle rheoliad 3 rhodder—

“Disgrifiad rhagnodedig o gwrs cymhwysol(3) (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae cwrs cymhwysol mewn perthynas â chynllun o dan Ddeddf 2004 at ddibenion y cyfnod trosiannol:(a) yn gwrs addysg uwch;(b) wedi ei ddynodi at ddibenion adran 22 o Ddeddf 1998 ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012; ac(c) yn cael ei ddarparu gan sefydliad yng Nghymru.(2) Nid yw cwrs yn gwrs cymhwysol os nad oedd y sefydliad a oedd yn darparu’r cwrs, ar yr adeg y cafodd y person cymhwysol gynnig lle ar y cwrs hwnnw, yn cael ei gyllido’n gyhoeddus.(3A) (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), cwrs cymhwysol at ddiben cynllun ffioedd a mynediad nad yw’n gynllun o dan Ddeddf 2004 yw cwrs addysg uwch sy’n gallu cael ei ddynodi drwy reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998 (ni waeth pa un a yw’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs yn cael ei gyllido’n gyhoeddus).(2) Pan fo cwrs yn cael ei ddarparu gan berson ar ran sefydliad, nid yw’r cwrs hwnnw yn gwrs cymhwysol os nad yw’r person hwnnw yn elusen.(3B) At ddibenion rheoliadau 3 a 3A, nid yw cwrs yn gwrs cymhwysol:(a) os dechreuodd blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cyn 1 Medi 2012;(b) os yw’n gwrs penben ac os...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT