Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018

JurisdictionWales
CitationWSI 2018/1064 (W223) (Cymru)

2018 Rhif 1064 (Cy. 223)

Iechyd Planhigion, Cymru

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018

Gwnaed 9th October 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 11th October 2018

Yn dod i rym 2nd November 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer—

(a) y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 2 a 3 o Ddeddf Iechyd Planhigion 19671, ac i’r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan adran 4(1) o’r Ddeddf honno, a freinir bellach ynddynt hwy2; a

(b) y pwerau a roddir gan baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19723.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19724. Ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i’r cyfeiriadau at offerynnau’r Undeb Ewropeaidd y cyfeirir atynt yn erthygl 2(5) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

1 Cyffredinol

RHAN 1

Cyffredinol

S-1 Enwi, cychwyn a chymhwyso

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018.

(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 2 Tachwedd 2018.

S-2 Dehongli cyffredinol

Dehongli cyffredinol

2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “ardal Ewrop a Môr y Canoldir” (“Euro-Mediterranean area”) yw’r ardal ddaearyddol sy’n cynnwys Ewrop, Algeria, yr Aifft, Israel, Gwlad yr Iorddonen, Libanus, Libya, Moroco, Syria, Tunisia a’r ardal o Dwrci i’r dwyrain o Gulfor Bosphorus o’r enw Anatolia;

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru i fod yn arolygydd at ddibenion y Gorchymyn hwn;

ystyr “Atodiad II Rhan B” (“Annex II Part B”) yw Rhan B o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2000/29/EC;

ystyr “Atodiad IV Rhan A” (“Annex IV Part A”) yw Rhan A o Atodiad IV i Gyfarwyddeb 2000/29/EC;

ystyr “Atodiad IV Rhan B” (“Annex IV Part B”) yw Rhan B o Atodiad IV i Gyfarwyddeb 2000/29/EC;

ystyr “Clefyd y ddafaden tatws” (“Potato wart disease”) yw naill ai’r clefyd tatws a achosir gan y ffwng Synchytrium endobioticum (Schilbersky) Percival neu’r ffwng hwnnw, fel y bo’r cyd-destun yn mynnu;

ystyr “cofrestr” (“register”) yw’r gofrestr o fasnachwyr planhigion a gedwir o dan erthygl 25(1);

ystyr “cofrestredig” (“registered”) mewn perthynas â masnachwr planhigion, yw masnachwr y mae ei fanylion wedi eu rhestru yn y gofrestr, ac mae “cofrestru” (“registration”) i’w ddehongli yn unol â hynny:

ystyr “corff swyddogol cyfrifol” (“responsible official body”) yw naill ai’r corff a ddisgrifir ym mharagraff (i) neu gorff a ddisgrifir ym mharagraff (ii) o Erthygl 2(1)(g) o Gyfarwyddeb 2000/29/EC;

ystyr “CRhWP” (“IPPC”) yw Confensiwn Rhyngwladol ar Warchod Planhigion 19515;

ystyr “Cyfarwyddeb 93/85/EEC” (“ Directive 93/85/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 93/85/EECynglŷn â rheoli pydredd cylch tatws6;

ystyr “Cyfarwyddeb 98/57/EC” (“ Directive 98/57/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 98/57/ECynglŷn â rheoliRalstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al.7;

ystyr “Cyfarwyddeb 2000/29/EC” (“ Directive 2000/29/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/ECar fesurau gwarchod yn erbyn cyflwyno organeddau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion i’r Gymuned ac yn erbyn eu lledaenu o fewn y Gymuned8;

ystyr “Cyfarwyddeb 2007/33/EC” (“ Directive 2007/33/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2007/33/ECar reoli llyngyr tatws ac sy’n diddymu Cyfarwyddeb 69/465/EEC9;

ystyr “Cyfarwyddeb 2008/61/EC” (“ Directive 2008/61/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/61/ECsy’n pennu’r amodau lle caniateir i organeddau niweidiol, planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill penodol a restrir yn Atodiadau I i V i Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/ECgael eu cyflwyno i’r Gymuned neu eu symud o fewn y Gymuned neu barthau gwarchod penodol ohoni, at ddibenion treialu neu ddibenion gwyddonol ac ar gyfer gwaith ar ddetholiadau amrywogaethol10;

ystyr “cynhyrchydd” (“producer”), mewn perthynas â deunydd perthnasol, yw person sy’n tyfu neu’n gwneud y deunydd wrth fasnachu neu redeg busnes;

mae i “cynnyrch planhigion” yr un ystyr ag a roddir i “plant product” yn Erthygl 2(1)(b) o Gyfarwyddeb 2000/29/EC;

ystyr “cytundeb tramwy UE” (“EU transit agreement”) yw cytundeb o fewn ystyr erthygl 12(4) neu (5);

ystyr “datganiad swyddogol” (“official statement”) yw datganiad a ddyroddir gan swyddog awdurdodedig neu ddatganiad a gynhwysir mewn pasbort planhigion;

ystyr “De America” (“South America”) yw’r ardal ddaearyddol sy’n cynnwys Ariannin, Bolivia, Brasil, Chile, Colombia, Ecuador, Guyana Ffrengig, Guyana, Paraguay, Periw, Suriname, Uruguay a Venezuela;

ystyr “deunydd perthnasol” (“relevant material”) yw unrhyw blanhigyn, unrhyw gynnyrch planhigyn, unrhyw bridd neu unrhyw gyfrwng tyfu;

ystyr “dogfen symud iechyd planhigion” (“plant health movement document”) yw dogfen sy’n bodloni’r gofynion yn Atodlen 12;

ystyr “dogfennaeth swyddogol” (“official documentation”) yw dogfennaeth a ddyroddir gan gorff swyddogol cyfrifol yr Aelod-wladwriaeth y dyroddir y ddogfennaeth ynddi, neu gyda’i awdurdod;

ystyr “y Ddeddf Dollau” (“the Customs Act”) yw Deddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 197911;

mae “Ewrop” (“Europe”) yn cynnwys Belarus, yr Ynysoedd Dedwydd, Georgia, Kazakhstan (ac eithrio’r ardal i’r dwyrain o afon Ural), Rwsia (ac eithrio rhanbarthau Tyumen, Chelyabinsk, Irkutsk, Kemerovo, Kurgan, Novossibirsk, Omsk, Sverdlovsk, Tomsk, Chita, Kamchatka, Magadan, Amur a Skhalin, tiriogaethau Krasnoyarsk, Altay, Khabarovsk a Primarie, a gweriniaethau Sakha, Tuva a Buryatia), Ukrain a Thwrci (ac eithrio’r ardal i’r dwyrain o Gulfor Bosphorus o’r enw Anatolia);

ystyr “ffrwythau” (“fruit”) yw ffrwythau yn yr ystyr botanegol ond nid yw’n cynnwys ffrwythau wedi eu sychu, eu dadhydradu, eu lacro neu eu dwys-rewi;

ystyr “ffrwythau sitrws ar gyfer eu prosesu” (“citrus fruits for processing”) yw ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle, Poncirus Raf., Microcitrus Swingle, Naringi Adans., neu Swinglea Merr., sy’n tarddu o drydedd wlad ac sydd wedi eu bwriadu ar gyfer eu prosesu’n ddiwydiannol yn sudd yn yr Undeb Ewropeaidd;

ystyr “Gogledd America” (“North America”) yw’r ardal ddaearyddol sy’n cynnwys Canada, Mecsico ac UDA;

ystyr “gwiriad iechyd planhigion” (“plant health check”) yw archwiliad a gynhelir o dan erthygl 12(2);

ystyr “hadau” (“seed”) yw hadau yn yr ystyr botanegol ac eithrio hadau nas bwriedir ar gyfer eu plannu;

ystyr “label swyddogol” (“official label”) yw label sy’n bodloni’r gofynion perthnasol a nodir yn Rhan A neu B o Atodlen 9, a ddyroddir gan gorff swyddogol cyfrifol yr Aelod-wladwriaeth y dyroddir y label swyddogol ynddi, neu gyda’i awdurdod;

mae i “llwyth” yr un ystyr ag a roddir i “consignment” yn Erthygl 2(1)(p) o Gyfarwyddeb 2000/29/EC pan fo’r term hwnnw’n cael ei ddefnyddio yn Rhan 2 neu mewn perthynas ag unrhyw ddeunydd perthnasol y cyfeirir ato yn y Rhan honno;

ystyr “Llyngyr tatws” (“Potato cyst nematode”) yw unrhyw lyngyr sy’n ffurfio systiau o’r rhywogaeth Globodera pallida (Stone) Behrens neu Globodera rostochiensis (Wollenweber) Behrens sy’n heigio ac yn lluosogi ar datws ac unrhyw fathau neu bathofathau o lyngyr o’r fath;

ystyr “man cynhyrchu” (“place of production”) yw unrhyw fangre, a weithredir fel uned fel rheol, ynghyd ag unrhyw dir cyffiniol o dan yr un berchnogaeth neu feddiannaeth â’r fangre honno;

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir, adeilad, cerbyd, llestr, awyren, hofranfad, cynhwysydd llwyth neu wagen reilffordd;

ystyr “masnachwr planhigion” (“plant trader”) yw—

(a) mewnforiwr deunydd perthnasol;

(b) cynhyrchydd deunydd perthnasol;

(c) person sydd â gofal am fangre a ddefnyddir i storio, i gasglu ynghyd neu i anfon allan lwythi o ddeunydd perthnasol; neu

(d) person sydd, wrth fasnachu neu redeg busnes, yn rhannu neu’n cyfuno llwythi o ddeunydd perthnasol;

ystyr “meithrinfa” (“nursery”) yw mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n rhannol i dyfu neu i gadw planhigion at ddiben eu trawsblannu neu eu symud i fangre arall;

mae “mewnforiwr” (“importer”), mewn perthynas ag unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol ar unrhyw adeg rhwng ei lanio o drydedd wlad a’r adeg y caiff ei ollwng gan arolygydd o dan y Gorchymyn hwn, yn cynnwys unrhyw berchennog neu berson arall sydd am y tro yn meddu ar y pla planhigion neu’r deunydd perthnasol neu sydd â buddiant llesiannol ynddo;

ystyr “nwyddau tramwy yr UE” (“EU transit goods”) yw unrhyw ddeunydd perthnasol y deuir ag ef i Gymru o drydedd wlad drwy ran arall o’r Undeb Ewropeaidd;

ystyr “parth gwarchod” (“protected zone”) yw Aelod-wladwriaeth neu ardal o fewn Aelod-wladwriaeth a gydnabyddir fel parth gwarchod sy’n agored i risgiau iechyd planhigion neilltuol at ddibenion Cyfarwyddeb 2000/29/EC, fel y’i rhestrir yn Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 690/2008;

ystyr “pasbort planhigion” (“plant passport”) yw label a, phan fo hynny’n briodol, ddogfen sy’n mynd gydag ef, sy’n bodloni’r gofynion perthnasol a nodir yn Rhan A neu B o Atodlen 9, a ddyroddir gan gorff swyddogol cyfrifol yr Aelod-wladwriaeth y dyroddir y pasbort planhigion ynddi, neu gyda’i awdurdod, ac mae’n cynnwys pasbort planhigion amnewid;

ystyr “pasbort planhigion y Swistir” (“Swiss plant passport”) yw label a, phan fo hynny’n briodol, ddogfen sy’n mynd gydag ef, a ddyroddir yn y Swistir yn unol â deddfwriaeth y Swistir ac sydd—

(a) yn cynnwys gwybodaeth sy’n rhoi tystiolaeth y cydymffurfiwyd â deddfwriaeth yn y Swistir sy’n ymwneud â safonau iechyd planhigion a gofynion arbennig ar gyfer deunydd perthnasol sy’n symud i’r Swistir ac o fewn y Swistir; a

(b) yn ymwneud â deunydd perthnasol a restrir yn Rhan A o Atodlen 8;

ystyr “Penderfyniad 2002/757/EC” (“ Decision 2002/757/EC”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2002/757/ECar fesurau ffytoiechydol brys dros dro i atal cyflwyno i’r Gymuned a lledaenu o fewn y GymunedPhytophthora ramorum Werres, De Cock a Man in’t Veld sp. nov12;

ystyr “Penderfyniad 2004/416/EC” (“ Decision 2004/416/EC”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2004/416/ECar fesurau brys dros dro mewn cysylltiad â ffrwythau sitrws penodol sy’n...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT