Gorchymyn Ffordd Fynediad Gwaith Dur yr A4810 (Queen's Way), (Llan-wern, Casnewydd) (Terfynau Cyflymder Dros Dro a Chlirffordd) 2020
Jurisdiction | Wales |
Citation | SI 2020/34 |
2020Rhif 34 (Cy. 3)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Ffordd Fynediad Gwaith Dur yr A4810 (Queen's Way), (Llan-wern, Casnewydd) (Terfynau Cyflymder Dros Dro a Chlirffordd) 2020
Gwnaed13Ionawr2020
Yn dod i rym17Ionawr2020
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer y darn perthnasol o Ffordd Fynediad Gwaith Dur yr A4810 (Queen's Way), wedi eu bodloni y dylid cyfyngu ar draffig a'i wahardd ar ddarnau penodedig o'r ffordd fynediad oherwydd y tebygolrwydd o berygl i'r cyhoedd.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1) a (4) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, Cychwyn a Dehongli
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ffordd Fynediad Gwaith Dur yr A4810 (Queen's Way), (Llan-wern, Casnewydd) (Terfynau Cyflymder Dros Dro a Chlirffordd) 2020 a daw i rym ar 17 Ionawr 2020.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cerbyd esempt”(“exempted vehicle”) yw:
(a) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio gan y gwasanaethau brys; a
(b) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu'r llu awyr ac sy'n cael ei yrru gan berson sydd am y tro yn ddarostyngedig i orchmynion aelod o luoedd arfog y Goron, sy'n aelod o'r lluoedd arbennig—
(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar gyflymderau uchel ac sy'n gweithredu wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i argyfwng diogelwch gwladol; neu
(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru cerbydau ar gyflymderau uchel;
ystyr “cerbytffordd” (“carriageway”) yw'r darn hwnnw o'r ffordd fynediad y bwriedir i gerbydau traffig dramwyo arni ond nad yw'n cynnwys cilfan;
ystyr “ffordd fynediad” (“access road”) yw Ffordd Fynediad Gwaith Dur yr A4810 (Queen's Way) fel y'i pennir yn yr Atodlenni i'r Gorchymyn hwn;
ystyr “llain ymyl” (“verge”) yw unrhyw ran o'r ffordd fynediad nad yw'n gerbytffordd nac yn gilfan; ac
ystyr “lluoedd arbennig” (“special forces”) yw'r unedau hynny o'r lluoedd cartref y mae Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig yn gyfrifol am gynnal eu galluoedd neu sydd am y tro yn ddarostyngedig i reolaeth weithredol y Cyfarwyddwr hwnnw.
Gwaharddiadau a Chyfyngiadau
3. Ni chaiff neb yrru unrhyw gerbyd modur yn gyflymach na 30 milltir yr awr ar y darn o'r ffordd fynediad a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.
4. Ni chaiff neb yrru unrhyw gerbyd modur yn gyflymach na 40 milltir yr awr ar y darnau o'r ffordd fynediad a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn.
5. Ni chaiff neb yrru unrhyw gerbyd modur yn gyflymach na 50 milltir...
To continue reading
Request your trial