Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) (Diwygio) 2020
Jurisdiction | Wales |
Citation | WSI 2020/517 (Cymru) |
2020 Rhif 517 (Cy. 122)
Y Diwydiant Dŵr, Cymru
Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) (Diwygio) 2020
Gwnaed 18th May 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 19th May 2020
Yn dod i rym 9th June 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 32 a 48(2) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 20101a pharagraff 7(4)(c) o Atodlen 3 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a chychwyn
Enw’r Gorchymyn hwn yw’r Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) (Diwygio) 2020 a daw i rym ar 9 Mehefin 2020.
Diwygio Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018
Mae Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 20182wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
Diwygio erthygl 2 (dehongli)
Yn erthygl 2, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“At ddibenion y Gorchymyn hwn, ystyr “caniatâd cynllunio” yw caniatâd cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19903ond nid yw’n cynnwys y datblygiadau hynny a ganiateir y rhoddir caniatâd cynllunio iddynt naill ai yn rhinwedd gorchymyn datblygu neu orchymyn datblygu lleol yn unol ag adran 58(1)(a) o’r Ddeddf honno.”
Diwygio erthygl 4 (eithriadau i’r gofyniad i gael cymeradwyaeth: caniatâd cynllunio heb fod yn ofynnol)
Yn lle erthygl 4 rhodder—
“Yn ddarostyngedig i baragraff (2), nid yw’r gofyniad i gael cymeradwyaeth o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3 yn gymwys i waith adeiladu pan na fo’n ofynnol cael caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith adeiladu.
Nid yw’r eithriad ym mharagraff (1) yn gymwys pan fo’r gwaith adeiladu yn cynnwys adeiladu adeilad neu strwythur arall ar ddarn o dir sy’n mesur 100 metr sgwâr neu fwy.
Nid yw’r gofyniad i gael cymeradwyaeth o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3 yn gymwys i’r datblygiadau o dan y Rhannau a ganlyn o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 19954—
(a)
(a) Rhan 3A (Adeiladu Dros Dro a Newid Defnydd at Ddibenion Argyfwng Iechyd y Cyhoedd)5;
(b)
(b) Rhan 12A (Datblygu Brys gan Awdurdodau Lleol)6; a
(c)
(c) Rhan 37 (Datblygu Brys gan y Goron)7.”
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
18 Mai 2020
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018 (“Gorchymyn 2018”). Mae Gorchymyn 2018 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r gofyniad i gael cymeradwyaeth ar gyfer systemau draenio...
To continue reading
Request your trial