Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2020

JurisdictionWales
CitationWSI 2020/292 (Cymru)

2020 Rhif 292 (Cy. 66)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2020

Gwnaed 13th March 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 17th March 2020

Yn dod i rym 15th April 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 122(1) a 124 o Ddeddf Addysg 20021, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru yn unol ag adran 1263o’r Ddeddf honno wedi ymgynghori â’r personau hynny a’r cyrff hynny y cyfeirir atynt yn yr adran honno yr oedd yn ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn briodol.

S-1 Enwi a chychwyn

Enwi a chychwyn

1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2020 a daw i rym ar 15 Ebrill 2020.

S-2 Diwygio Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2019

Diwygio Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2019

2.—(1) Mae Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 20194wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Yn erthygl 1(3), yn y diffiniad o “y Ddogfen”, yn lle “dyddiedig Medi 2019.” rhodder “dyddiedig Medi 2019 ac a gyhoeddir ar wefan llyw.cymru5.”

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

13 Mawrth 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio erthygl 1(3) o Orchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2019 i egluro ymhellach ym mha le y cyhoeddir Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2019 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.


(1) 2002 p. 32. Diwygiwyd adran 122 gan erthygl 5(1) o O.S. 2010/1158, a chan baragraff 11 o Ran 1 o Atodlen 2 iddo.
(2) Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion Cymru gan erthygl 39 o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 (O.S. 2018/644).
(3) Trosglwyddwyd y swyddogaeth hon o’r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion Cymru gan erthygl 39 o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 (O.S. 2018/644).
(4) O.S. 2019/1363 (Cy. 236).
(5) https://llyw.cymru/addysgu-ac-arweinyddiaeth.

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT