Gorchymyn Cefnffordd yr A5 (Cilfannau rhwng Porthaethwy a Chyffordd 8A yr A55 yng Ngharreg Brân, Ynys Môn) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2020

JurisdictionWales
CitationWSI 2020/553
Year2020

2020Rhif 553 (Cy. 126)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd yr A5 (Cilfannau rhwng Porthaethwy a Chyffordd 8A yr A55 yng Ngharreg Brân, Ynys Môn) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2020

Gwnaed22Mai2020

Yn dod i rym28Mai2020

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer cefnffordd yr A5, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig ar ddarnau penodedig o'r gefnffordd tra bo mesurau cyfyngu COVID-19 mewn grym.

Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1) a (4) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi, Cychwyn a Dehongli

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefnffordd yr A5 (Cilfannau rhwng Porthaethwy a Chyffordd 8A yr A55 yng Ngharreg Brân, Ynys Môn) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2020 a daw i rym ar 28 Mai 2020.

2. Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “cerbyd esempt” (“exempted vehicle”) yw unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio gan y gwasanaethau brys;

ystyr “y cyfnod cau” (“closure period”) yw'r cyfnod sy'n dechrau am 09:00 o'r gloch ar 28 Mai 2020 ac sy'n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol;

ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw'r cilfannau ar gefnffordd yr A5 Llundain i Gaergybi rhwng Porthaethwy a Chyffordd 8A yr A55 yng Ngharreg Brân yn Sir Ynys Môn fel a ganlyn;

i. y gilfan sydd 340 o fetrau i'r dwyrain o Drosbont Carreg Brân yr A5;

ii. y gilfan sydd 530 o fetrau i'r dwyrain o Drosbont Carreg Brân yr A5.

Gwaharddiad

3. Ni chaiff neb, yn ystod y cyfnod cau, yrru unrhyw gerbyd, ac eithrio cerbyd esempt, ar y darnau o'r gefnffordd.

Cymhwyso

4. Ni fydd y gwaharddiad yn erthygl 3 yn gymwys ond ar yr adegau hynny ac i'r graddau hynny y bydd arwyddion traffig yn eu dangos.

Cyfnod Para'r Gorchymyn hwn

5. Bydd y Gorchymyn hwn yn para am 18 mis ar y mwyaf.

Llofnodwyd o dan awdurdod Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, un o Weinidogion Cymru.

Dyddiedig 22 Mai 2020

Nicci Hunter

Arweinydd Tîm Busnes

Llywodraeth Cymru

(1) 1984 p. 27; amnewidiwyd...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT