Gorchymyn Cefnffordd yr A489 (Y Drenewydd i Gaersws, Powys) (Cyfyngiadau Cyflymder Dros Dro a Dim Goddiweddyd) 2019

JurisdictionWales
CitationWSI 2019/7

2019Rhif 7 (Cy. 3)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd yr A489 (Y Drenewydd i Gaersws, Powys) (Cyfyngiadau Cyflymder Dros Dro a Dim Goddiweddyd) 2019

Gwnaed3Ionawr2019

Yn dod i rym11Ionawr2019

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer Cefnffordd yr A489, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig a/neu gyfyngu arno ar ddarn penodedig o'r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.

Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1), (4) a (7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi, Cychwyn a Dehongli

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefnffordd yr A489 (Y Drenewydd i Gaersws, Powys) (Cyfyngiadau Cyflymder Dros Dro a Dim Goddiweddyd) 2019 a daw i rym ar 11 Ionawr 2019.

2. Yn y Gorchymyn hwn:

ystyr “cerbyd esempt” (“exempted vehicle”) yw:

(a) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at y dibenion a ddisgrifir yn adran 87 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 2); a

(b) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu'r llu awyr ac sy'n cael ei yrru gan berson sydd am y tro yn ddarostyngedig i orchmynion aelod o luoedd arfog y Goron, sy'n aelod o'r lluoedd arbennig—

(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar gyflymderau uchel ac sy'n gweithredu wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i argyfwng diogelwch gwladol; neu

(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru cerbydau ar gyflymderau uchel;

ystyr “cyfnod y gwaith”(“works period”) yw cyfnodau ysbeidiol a fydd yn cychwyn am 08:00 o'r gloch ar 11 Ionawr 2019 ac a ddaw i ben pan fydd yr arwyddion traffig dros dro ar gyfer pob cyfnod o waith wedi eu symud ymaith;

ystyr “y gefnffordd”(“the trunk road”) yw Cefnffordd yr A489 y Drenewydd i Aberystwyth yn Sir Powys sy'n ymestyn o ganolbwynt ei chyffordd â'r A483 yn Ffordd Dolfor, y Drenewydd hyd at ganolbwynt ei chyffordd â'r A470 yn Moat Lane, Caersws;

ystyr “lluoedd arbennig”(“special forces”) yw'r unedau hynny o'r lluoedd arfog y mae Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig yn gyfrifol am gynnal eu galluoedd neu sydd am y tro yn ddarostyngedig i reolaeth weithredol y Cyfarwyddwr hwnnw.

Cyfyngiadau a Gwaharddiad

3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd modur yn gyflymach na 40 milltir yr awr ar y darn o'r gefnffordd.

4. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd modur yn gyflymach na 30 milltir yr awr ar y darn o'r gefnffordd.

5. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT