Gorchymyn Cefnffordd yr A466 (Cylchfan Newhouse i Gylchfan High Beech, Cas-gwent, Sir Fynwy) (Clirffordd Llwybr Coch) 2020

JurisdictionWales
CitationWSI 2020/178

2020Rhif 178 (Cy. 39)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd yr A466 (Cylchfan Newhouse i Gylchfan High Beech, Cas-gwent, Sir Fynwy) (Clirffordd Llwybr Coch) 2020

Gwnaed25Chwefror2020

Yn dod i rym27Chwefror2020

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer y darn perthnasol o Gefnffordd yr A466, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 1(1), 2(1), 2(2) a 124(1)(d) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1) a pharagraff 27(1) o Atodlen 9 iddi, ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog Heddlu Gwent, yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi, Cychwyn a Dehongli

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefnffordd yr A466 (Cylchfan Newhouse i Gylchfan High Beech, Cas-gwent, Sir Fynwy) (Clirffordd Llwybr Coch) 2020 a daw i rym ar 27 Chwefror 2020.

2. Yn y Gorchymyn hwn:

ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw Cefnffordd yr A466 Llundain i Abergwaun.

Gwaharddiad

3. Ac eithrio fel a ddarperir yn erthygl 4, ni chaiff neb beri na chaniatáu i unrhyw gerbyd stopio ar y darnau o'r gefnffordd a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Esemptiadau

4. Nid oes dim yn erthygl 3 yn gwahardd cerbyd rhag stopio ar y darnau o'r gefnffordd a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn cyhyd ag sy'n angenrheidiol i alluogi:

(a) y cerbyd i gael ei ddefnyddio mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o'r gweithrediadau a ganlyn:

(i) gwaith adeiladu, gwaith diwydiannol neu waith dymchwel;

(ii) symud unrhyw rwystr i draffig;

(iii) cynnal a chadw, gwella neu ailadeiladu'r darnau hynny o'r gefnffordd;

(iv) gosod, codi, addasu neu atgyweirio, yn y darnau hynny o'r gefnffordd, neu mewn tir cyfagos, unrhyw garthffos neu unrhyw brif bibell, unrhyw bibell neu unrhyw gyfarpar ar gyfer cyflenwi nwy, dŵr neu drydan neu unrhyw gyfarpar cyfathrebu electronig fel y'i diffinnir ym mharagraff 5 o Atodlen 3A i Ddeddf Cyfathrebiadau 2003( 2);

(b) y cerbyd i gael ei ddefnyddio yng ngwasanaeth awdurdod lleol neu awdurdod dŵr yn unol â swyddogaethau statudol;

(c) y cerbyd i gael ei ddefnyddio at ddibenion y frigâd dân, y gwasanaeth ambiwlans neu'r heddlu; a,

(d) y cerbyd i stopio pan fo'r person sydd â rheolaeth arno'n gwneud y canlynol:

(i) pan fydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith iddo stopio;

(ii) pan fydd yn gorfod stopio er mwyn osgoi damwain;

(iii) pan gaiff ei rwystro rhag mynd yn ei flaen; neu

(iv) pan fydd yn gweithredu yn ôl cyfarwyddyd neu â chaniatâd cwnstabl heddlu, swyddog cymorth cymunedol yr heddlu neu swyddog gorfodi sifil.

Dirymu

5. Mae Gorchymyn Cefnffordd...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT