Gorchymyn Cefnffordd yr A458 (Man i'r Dwyrain o Dreberfedd i Nant-y-dugoed, Powys) (Cyfyngiadau Cyflymder Dros Dro a Dim Goddiweddyd) 2019
Jurisdiction | Wales |
Citation | WSI 2019/3 |
Year | 2019 |
2019Rhif 3 (Cy. 2)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gwnaed3Ionawr2019
Yn dod i rym10Ionawr2019
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer y darn perthnasol o Gefnffordd yr A458 Amwythig i Ddolgellau, wedi eu bodloni y dylid cyfyngu ar draffig a/neu ei wahardd ar ddarn penodedig o'r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 14(1), (4) a (7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, Cychwyn a Dehongli
1. Enw'r Gochymyn hwn yw Gorchymyn Cefnffordd yr A458 (Man i'r Dwyrain o Dreberfedd i Nant-y-dugoed, Powys) (Cyfyngiadau Cyflymder Dros Dro a Dim Goddiweddyd) 2019 a daw i rym ar 10 Ionawr 2019.
2. Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr “cerbyd esempt” (“exempted vehicle”) yw:
(a) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at y dibenion a ddisgrifir yn adran 87 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig 1984( 2); a
(b) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu'r llu awyr ac sy'n cael ei yrru gan berson sydd am y tro yn ddarostyngedig i orchmynion aelod o luoedd arfog y Goron, sy'n aelod o'r lluoedd arbennig—
(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar gyflymderau uchel ac sy'n gweithredu wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i argyfwng diogelwch gwladol; neu
(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru cerbydau ar gyflymderau uchel;
ystyr “cyfnod y gwaith”(“works period”) yw cyfnodau ysbeidiol a fydd yn cychwyn am 08:00 o'r gloch ar 10 Ionawr 2019 ac a ddaw i ben pan fydd yr arwyddion traffig dros dro ar gyfer pob cyfnod o waith wedi eu symud ymaith;
ystyr “y gefnffordd”(“the trunk road”) yw Cefnffordd yr A458 Amwythig i Ddolgellau yn Sir Powys sy'n ymestyn o ffin Powys/Swydd Amwythig, i'r dwyrain o Dreberfedd, hyd at ffin Powys/Gwynedd yn Nant-y-dugoed;
ystyr “lluoedd arbennig”(“special forces”) yw'r unedau hynny o'r lluoedd arfog y mae Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig yn gyfrifol am gynnal eu galluoedd neu sydd am y tro yn ddarostyngedig i reolaeth weithredol y Cyfarwyddwr hwnnw.
Cyfyngiadau a Gwaharddiad
3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd ar gyflymder mwy na 40 milltir yr awr ar y darn o'r gefnffordd.
4. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd ar gyflymder mwy na 30 milltir yr awr ar y darn o'r gefnffordd.
5...
To continue reading
Request your trial