OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2020Rhif 880 (Cy. 193)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Cefnffordd yr A4232 (Cyffordd 33 (Capel Llanilltern) i Groes Cwrlwys, Caerdydd) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2020
Gwnaed20Awst2020
Yn dod i rym22Awst2020
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar gyfer cefnffordd yr A4232, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig ar ddarnau penodedig o'r gefnffordd oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffordd neu gerllaw iddi.
Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1) a (4) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, Cychwyn a Dehongli
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefnffordd yr A4232 (Cyffordd 33 (Capel Llanilltern) i Groes Cwrlwys, Caerdydd) (Gwahardd Cerbydau Dros Dro) 2020 a daw i rym ar 22 Awst 2020.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cerbyd esempt” (“exempted vehicle”) yw unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio gan y gwasanaethau brys neu mewn cysylltiad â'r gwaith sy'n arwain at y Gorchymyn hwn;
ystyr “cyfnod y gwaith” (“works period”) yw'r cyfnod sy'n dechrau am 20:00 ar 22 Awst 2020 ac sy'n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol;
ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw cefnffordd yr A4232 Llundain i Abergwaun.
Gwaharddiad
3. Ni chaiff neb, yn ystod cyfnod y gwaith, yrru unrhyw gerbyd, ac eithrio cerbyd esempt, ar y darnau o'r gefnffordd a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Cymhwyso
4. Nid yw'r gwaharddiad yn erthygl 3 yn gymwys ond ar yr adegau hynny ac i'r graddau hynny y bydd arwyddion traffig yn eu dangos.
Cyfnod Para'r Gorchymyn hwn
5. Bydd y Gorchymyn hwn yn para am 18 mis ar y mwyaf.
Llofnodwyd o dan awdurdod Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, un o Weinidogion Cymru.
Dyddiedig 20 Awst 2020 |
Nicci Hunter
Arweinydd y Tîm Busnes
Llywodraeth Cymru
|
YR ATODLEN
1. Y darn cyfan o ffordd ymuno tua'r gogledd yr A4232 wrth Gyfnewidfa Croes Cwrlwys.
2. Y darn o gerbytffordd tua'r gogledd yr A4232 sy'n ymestyn o bwynt 352 o fetrau i'r gogledd-orllewin o ganolbwynt Croes Cwrlwys hyd at ei chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyffordd 33 Capel Llanilltern.
3. Y darn cyfan o ffordd ymadael tua'r de yr A4232 wrth Gyfnewidfa Croes Cwrlwys.
4. Y darn o gerbytffordd tua'r de yr A4232 sy'n ymestyn o'i chyffordd â cherbytffordd gylchredol Cyffordd 33 Capel Llanilltern (gan gynnwys y lôn...