Gorchymyn Cefnffordd yr A40 a'r Ffordd Gyswllt (Cyffordd Travellers' Rest, Sir Gaerfyrddin) (Gwahardd Cerbydau a Therfyn Cyflymder 30 MYA Dros Dro) 2018

JurisdictionWales
CitationWSI 2018/1418

2018Rhif 1418 (Cy. 266)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd yr A40 a'r Ffordd Gyswllt (Cyffordd Travellers' Rest, Sir Gaerfyrddin) (Gwahardd Cerbydau a Therfyn Cyflymder 30 MYA Dros Dro) 2018

Gwnaed21Rhagfyr2018

Yn dod i rym3Ionawr2019

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod traffig ar Cefnffordd yr A40, wedi eu bodloni y dylid gwahardd traffig a chyfyngu arno ar ddarnau penodedig o'r gefnffordd a'r ffordd gyswllt oherwydd gwaith y bwriedir ei wneud ar y ffyrdd neu gerllaw iddynt.

Mae Gweinidogion Cymru, felly, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 14(1), (4) a (7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi, Cychwyn a Dehongli

1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefnffordd yr A40 a'r Ffordd Gyswllt (Cyffordd Travellers' Rest, Sir Gaerfyrddin) (Gwahardd Cerbydau a Therfyn Cyflymder 30 MYA Dros Dro) 2018 a daw i rym ar 3 Ionawr 2019.

2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn:

ystyr “cerbyd esempt” (“exempted vehicle”) yw:

(a) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at y dibenion a ddisgrifir yn adran 87 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984( 2) neu mewn cysylltiad â'r gwaith sy'n arwain at y Gorchymyn hwn;

(b) unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu'r llu awyr ac sy'n cael ei yrru gan berson sydd am y tro yn ddarostyngedig i orchmynion aelod o luoedd arfog y Goron, sy'n aelod o'r lluoedd arbennig—

(i) ac sydd wedi ei hyfforddi i yrru ar gyflymderau uchel ac sy'n gweithredu wrth ymateb, neu wrth ymarfer ymateb, i argyfwng diogelwch gwladol; neu

(ii) at ddiben hyfforddi person i yrru cerbydau ar gyflymderau uchel;

ystyr “cyfnod y gwaith” (“works period”) yw cyfnodau ysbeidiol sy'n dechrau am 00:01 o'r gloch ar 3 Ionawr 2019 ac sy'n dod i ben pan gaiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol;

ystyr “y ffordd gyswllt” (“the link road”) yw'r darn o'r ffordd gyswllt sy'n cysylltu'r ffyrdd ymadael ac ymuno tua'r dwyrain i'r de-orllewin o drosbont Travellers' Rest wrth Gyffordd Travellers' Rest yn Sir Gaerfyrddin;

ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw Cefnffordd Llundain i Abergwaun yr A40 wrth Gyffordd Travellers' Rest yn Sir Gaerfyrddin;

ystyr “lluoedd arbennig” (“special forces”) yw'r unedau hynny o'r lluoedd arfog y mae Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig yn gyfrifol am gynnal eu galluoedd neu sydd am y tro yn ddarostyngedig i reolaeth weithredol y Cyfarwyddwr hwnnw.

(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at erthygl neu Atodlen â rhif yn...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT