Gorchymyn Cefnffordd Abergwaun i Fangor (yr A487) (Pont Newydd dros Afon Dyfi a Thynnu Statws Cefnffordd, Machynlleth) 2020

JurisdictionWales

2020Rhif 107 (Cy. 18)

PRIFFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd Abergwaun i Fangor (yr A487) (Pont Newydd dros Afon Dyfi a Thynnu Statws Cefnffordd, Machynlleth) 2020

Gwnaed31Ionawr2020

Yn dod i rym12Chwefror2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 10 a 12 o Ddeddf Priffyrdd 1980( 1), yn gwneud y Gorchymyn hwn:

Enwi, Dehongli a Chychwyn

1. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 12 Chwefror 2020 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd Abergwaun i Fangor (yr A487) (Pont Newydd dros Afon Dyfi a Thynnu Statws Cefnffordd, Machynlleth) 2020.

2. Yn y Gorchymyn hwn:–

Gwneir pob mesuriad pellter ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;

(i) ystyr “ffordd ddosbarthiadol” (“classified road”), fel dosbarthiad briffordd, yw nad yw'r briffordd yn brif ffordd at ddibenion deddfiadau ac offerynnau sy'n cyfeirio at briffyrdd a ddosberthir yn brif ffyrdd ond ei bod yn ffordd ddosbarthiadol at ddibenion pob deddfiad ac offeryn arall sy'n cyfeirio at briffyrdd a ddosberthir gan Weinidogion Cymru ac nad yw'n cyfeirio'n benodol at eu dosbarthiad yn brif ffyrdd;

(ii) ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw Cefnffordd Abergwaun i Fangor (yr A487);

(iii) ystyr “y plan a adneuwyd” (“the deposited plan”) yw'r plan sy'n dwyn y rhif HA10/2 WG13 ac sydd wedi ei farcio “Gorchymyn Cefnffordd Abergwaun i Fangor (yr A487) (Pont Newydd dros Afon Dyfi a Thynnu Statws Cefnffordd, Machynlleth) 2020”, wedi ei lofnodi ar ran Gweinidogion Cymru ac wedi ei adneuo (cyf qA1244119) yn Llywodraeth Cymru, yr Uned Rheoli Gwybodaeth a Chofnodion, Parc Cathays, Caerdydd.

Priffyrdd sydd i ddod yn gefnffyrdd

3. Bydd y priffyrdd newydd y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu hadeiladu ar hyd y llwybrau a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir ar y plan a adneuwyd, yn dod yn gefnffyrdd o'r dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym.

4. Nodir llinellau canol y cefnffyrdd newydd â llinell ddu drom ar y plan a adneuwyd.

Darnau o gefnffordd sy'n peidio â bod yn gefnffyrdd

5. Bydd y darnau o'r gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau rhesog llydan ar y plan a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd, ac yn dod yn ffordd ddiddosbarth fel y dangosir yn yr Atodlen, o'r dyddiad y bydd Gweinidogion Cymru yn hysbysu Cyngor Sir Powys fod y cefnffyrdd newydd ar agor ar gyfer traffig trwodd pan Cyngor Sir Powys fydd yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y darn hwnnw o ffordd.

6. Bydd y darn o'r gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn...

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT