Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) (Diwygio) 2013

CitationWSI 2013/2918 (W286) (Cymru)
Year2013

2013 Rhif 2918 (Cy. 286)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) (Diwygio) 2013

Gwnaed 13th November 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 21th November 2013

Yn dod i rym 12th December 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 11, 203(9) a (10) a 204 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061a pharagraffau 11 a 12 o Atodlen 2 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

S-

Enwi a chychwyn

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) (Diwygio) 2013 a daw i rym ar 12 Rhagfyr 2013.

S-

Diwygio Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009

Mae Atodlen 1 i Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 20092(enwau byrddau iechyd lleol a phrif ardaloedd llywodraeth leol y sefydlir hwy ar eu cyfer) wedi ei diwygio fel a ganlyn:

yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan” (“Aneurin Bevan Local Health Board”) rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Aneurin Bevan” (“Aneurin Bevan University Local Health Board”);

yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf” (“Cwm Taf Local Health Board”) rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf” (“Cwm Taf University Local Health Board”); ac

yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda” (“Hywel Dda Local Health Board”) rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Hywel Dda” (“Hywel Dda University Local Health Board”).

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

13 Tachwedd 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn Diwygio hwn yn diwygio Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009 ( O.S. 2009/778 (Cy.66)) er mwyn newid enwau Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda i Fyrddau Iechyd Lleol Prifysgol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.


(1) 2006. p.42 .
(2) O.S. 2009/778 (Cy.66).

To continue reading

Request your trial

VLEX uses login cookies to provide you with a better browsing experience. If you click on 'Accept' or continue browsing this site we consider that you accept our cookie policy. ACCEPT